RAT – Damcaniaeth Gweithgarwch Arferol

 

Cymraeg

 

RAT – Damcaniaeth Gweithgarwch Arferol

Cyflwyniad

Mae RAT yn esbonio’r rhesymau dros gyflawni
troseddau ac yn ystyried tair elfen sy’n bresennol pan
gyflawnir unrhyw drosedd. Weithiau bydd RAT yn cael ei
adnabod fel y triongl troseddu sylfaenol.

Beth yw’r Ddamcaniaeth?

Mae RAT yn dadlau bod tri pheth yn digwydd ar yr un
pryd ac yn yr un lle pan gyflawnir trosedd:

  • mae targed addas ar gael

  • nid oes rhywun addas neu effeithiol ar gael i atal
    y trosedd rhag digwydd

  • mae troseddwr tebygol ac awyddus yn bresennol.

Targed Addas

I drosedd ddigwydd, rhaid bod targed addas ar gael.
Dewiswyd y gair targed yn ofalus, yn hytrach na geiriau
eraill megis dioddefwr.

Ceir tri phrif categori o darged. Gall targed fod yn
unigolyn, yn wrthrych neu’n lleoliad.

Ceir digon o dargedau posibl ond nid yw pob un yn
addas. Mae pedwar peth yn gwneud targed yn addas i
droseddwr ac mae’r rhain yn defnyddio’r acronym VIVA:

  • Gwerth (Value). Rhaid bod y troseddwr yn
    gwerthfawrogi’r targed. Efallai y bydd rhywun sy’n
    cyflawni byrgleriaeth yn dymuno’r eitemau a gaiff eu
    dwyn neu’r arian a gaiff o’u gwerthu. Gallai
    troseddwr ddifrodi arosfan bysiau oherwydd ei fod yn
    cael pleser o achosi difrod: mae’r pleser hwn o
    werth i’r troseddwr.

  • Inertia. Gall maint neu bwysau eitem
    effeithio ar ba mor addas ydyw. Mae cryno ddisg ac
    oriawr yn dargedau addas i’r rhai sy’n dwyn o siopau
    oherwydd eu bod yn fach ac yn hawdd i’w cario o
    gwmpas.

  • Amlygrwydd (Visibility). Mae pa mor amlwg
    yw targed yn effeithio ar ba mor addas ydyw. Mae
    eitemau sy’n cael eu cadw ger ffenestr neu rywun
    sy’n cyfrif arian ger peiriant rhoi arian, yn
    dargedau amlwg.

  • Mynediad (Access). Mae targedau y mae’n
    hawdd eu cyrraedd yn fwy addas. Mae’n hawdd cael
    gafael ar nwyddau a ddangosir y tu allan i siopau
    neu rywun yn cerdded mewn stryd wag ar eu pen eu hun
    gyda’r nos.

Absenoldeb Gwarcheidwad Addas

Yr ail amod a fydd yn galluogi rhywun i gyflawni
trosedd yw absenoldeb gwarcheidwad y bydd eu presenoldeb
yn darbwyllo rhywun i beidio cyflawni trosedd. Mae
gwarcheidwad addas yn unrhyw un neu unrhyw beth sy’n
darbwyllo troseddwr i beidio troseddu. Er enghraifft:

  • patr�l yr heddlu

  • swyddogion diogelwch

  • Cynllun Gwarchod Cymdogol

  • staff wrth y drws

  • cloeon

  • fensys

  • rhwystrau

  • goleuadau

  • systemau larwm

  • staff a chydweithwyr gwyliadwrus

  • ffrindiau

  • cymdogion

  • CCTV

Mae rhai gwarcheidwaid yn ffurfiol ac yn fwriadol,
megis swyddogion diogelwch; mae rhai yn anffurfiol ac yn
ddiofal, megis cymdogion. Mae modd i warcheidwad fod yn
bresennol ond yn aneffeithiol. Nid yw camera CCTV yn
warcheidwad effeithiol os yw’n pwyntio i’r cyfeiriad
anghywir. Gallai staff fod yn bresennol mewn siop ond
efallai nad ydynt wedi cael hyfforddiant digonol neu
efallai nad oes ganddynt ymwybyddiaeth ddigonol i fod yn
rhwystr effeithiol.

Troseddwyr Tebygol

Elfen olaf RAT yw presenoldeb rhywun sy’n debygol o
droseddu. Mae RAT yn edrych ar drosedd o safbwynt
troseddwr. Cyflawnir trosedd os bydd troseddwr tebygol
yn credu bod targed yn addas a bod gwarcheidwad
effeithiol yn absennol. Asesiad y darpar droseddwr o
sefyllfa fydd yn penderfynu a gyflawnir trosedd neu
beidio.

Mae gan droseddwyr tebygol resymau gwahanol dros
gyflawni troseddau. Mae’n bwysig deall rhai o’r rhain.
Mae gallu i ddadansoddi sefyllfa o safbwynt troseddwr yn
golygu y byddwch yn cynyddu eich effeithiolrwydd fel
ymarferwr lleihau troseddau. Mae’r rhestr o resymau pobl
dros gyflawni troseddau’n ddiddiwedd! Dyma rai o’r prif
rai:

Mantais/Angen

  • tlodi

  • talu am gyffuriau oherwydd eu bod yn gaeth iddynt

  • trachwant.

Cymdeithas/Profiad/Amgylchedd

  • diwylliant lle mae troseddu’n dderbyniol

  • pwysau gan gyfoedion

  • gorfodaeth

  • diffyg addysg

  • rhagolygon cyflogaeth gwael

  • cefndir teuluol

  • salwch meddwl

  • tai gwael

  • eiddigedd

  • gwrthryfela’n erbyn awdurdod.

Credoau

  • cred gyffredinol nad yw troseddu neu rai
    troseddau’n anghywir

  • fel protest ar fater o egwyddor

  • rhagfarn yn erbyn grwpiau ethnig/lleiafrifoedd
    penodol.

Mae nifer o’r rhesymau pam fod pobl yn cyflawni
troseddau yn gymhleth, ac yn aml ceir cyswllt rhwng un
neu fwy ohonynt. Felly, er enghraifft, er y gallai bod
yn ddibynnol ar gyffuriau fod yn brif reswm dros
gyflawni trosedd, gallai fod rhesymau sylfaenol. Efallai
fod tlodi neu ddiffyg gwaith wedi achosi’r unigolyn i
fod yn gaeth i gyffuriau yn y lle cyntaf, gan arwain yn
anuniongyrchol at droseddu.

Crynodeb

Presenoldeb troseddwr posibl yw’r amod olaf dros
gyflawni trosedd ac mae’n cwblhau’r triongl troseddu
sylfaenol.

Felly, er mwyn i drosedd gael ei gyflawni:

…rhaid i droseddwr tebygol ddod o hyd i darged
addas yn absenoldeb gwarcheidwad effeithiol…

Gellir rhoi crynodeb o hyn mewn diagram

Sut y Gallwch Ddefnyddio RAT

Diffiniad o Atal Troseddu Rydym wedi ystyried yr
amodau y mae’n rhaid iddynt fod yn bresennol os
cyflawnir trosedd. Mae hwn yn ddiffiniad da o’r rhesymau
dros gyflawni troseddau, ond ynddo’i hun nid yw hyn yn
esbonio sut y gallwch eu hatal. Os ystyriwch bethau o
ogwydd wahanol, mae RAT yn ddefnyddiol.

Mae angen troseddwr, targed a gwarcheidwad effeithiol
absennol er mwyn i drosedd ddigwydd. Ond os byddwch yn
newid un o’r amodau, bydd hyn yn atal y trosedd rhag
digwydd:

Felly, er enghraifft:

  • gall marcio eitemau eiddo eu gwneud yn dargedau
    anaddas

  • gall ffurfio cynllun Gwarchod y Gymdogaeth
    ddarparu gwarcheidwad effeithiol

  • gall cynlluniau ieuenctid, megis y rhai a reolir
    gan Ymddiriedolaeth y Tywysog, ddargyfeirio llwybr
    unigolion sy’n debygol o droseddu

Yn yr holl enghreifftiau hyn, newidiwyd un o amodau
troseddu mewn ffordd a allai atal neu ostwng troseddu.

Diffiniad ymarferol sylfaenol o atal troseddu felly
yw:

Unrhyw weithred sy’n addasu un o’r amodau
troseddu ac sy’n atal troseddu rhag digwydd neu sy’n
lleihau nifer y troseddau a gyflawnir.

 

Last update:  25/07/03