Cyngor ynghylch Diogelwch Personol

 

Cymraeg

 

Diogelwch Personol

Mae’r siawns y byddwch chi neu aelod o’ch teulu’n
dioddef trosedd dreisgar yn isel. Mae troseddau treisgar
yn gymharol brin o hyd ac yn gyfran fach iawn o’r
troseddau a gofnodir. Ond mae rhai pobl yn dal i ofni y
byddan nhw neu rywun sy’n agos iddynt yn dioddef
ymosodiad treisgar.

Y ffordd orau o leihau risg ymosodiad yw trwy gymryd
camau synhwyrol a bod yn ofalus. Mae’r rhan fwyaf yn
gwneud hyn eisoes fel rhan o’u bywydau bob dydd, yn aml
heb sylweddoli eu bod yn gwneud hynny.

Sut allwch chi fod yn ddiogel?

Bod yn ddiogel yn y cartref

Gwnewch yn siwr bod eich ty neu’ch fflat yn ddiogel.
Dylech gau drysau’r tu allan yn dynn bob amser. Gosodwch
gloeon baril ar y brig a’r gwaelod. Os oes yn rhaid i
chi ddefnyddio allwedd, cadwch hi gerllaw – efallai y
bydd angen i chi ddianc yn gyflym os bydd t�n.

Os oes allweddi sy’n dal i ffitio gan bobl
eraill,megis tenantiaid blaenorol, yna dylech newid y
cloeon. Peidiwch � rhoi allweddi i weithwyr neu
grefftwyr oherwydd fe allent wneud cop�au’n hawdd.

Os ydych yn deffro ac yn clywed swn rhywun yn y ty,
dim ond chi all benderfynu sut i ddelio �’r sefyllfa
orau. Efallai y byddwch yn dymuno gorwedd yn dawel er
mwyn osgoi tynnu sylw at eich hun gan obeithio y byddant
yn gadael. Neu efallai y byddwch yn teimlo’n fwy hyderus
i droi’r golau ymlaen a gwneud llawer o swn trwy symud o
gwmpas. Hyd yn oed os byddwch ar eich pen eich hun,
gwaeddwch yn uchel ar rywun dychmygol – bydd y rhan
fwyaf o’r rhai sy’n cyflawni byrgleriaeth yn dewis dianc
yn waglaw yn hytrach na gorfod wynebu rhywun. Ffoniwch
yr heddlu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i chi wneud
hynny. Bydd estyniad ff�n yn eich ystafell wely yn peri
i chi deimlo’n fwy diogel ac mae’n eich galluogi i
ffonio’r heddlu’n syth heb dynnu sylw’r tresmaswr.

Tynnwch eich llenni wedi iddi nosi ac os credwch bod
rhywun yn llercian y tu allan – ffoniwch 999

Dylech nodi’ch cyfenw a’ch llythrennau blaen yn unig
yn y llyfr ff�n ac ar bl�t y drws. Trwy wneud hyn, ni
fydd rhywun dieithr yn gwybod ai dyn neu ferch sy’n byw
yno.

Os byddwch yn gweld arwyddion bod rhywun wedi torri i
mewn i’ch cartref, er enghraifft ffenestr wedi’i thorri
neu ddrws agored, peidiwch � mynd i mewn. Ewch at
gymydog a ffoniwch yr heddlu.

Os ydych yn gwerthu’ch cartref, peidiwch � thywys
pobl o gwmpas ar eich pen ei hun. Gofynnwch i’ch
gwerthwr tai anfon cynrychiolydd gydag unrhyw sy’n
dymuno bwrw golwg dros eich ty.

Pan fyddwch yn ateb y ff�n, dywedwch ‘helo’ yn unig;
peidiwch � rhoi’ch rhif. Os bydd yr un sy’n galw’n
dweud eu bod wedi deialu’r rhif anghywir, gofynnwch iddo
neu iddi ailadrodd y rhif yr oedd ei angen arnynt.
Peidiwch fyth � datgelu unrhyw wybodaeth amdanoch eich
hun i rywun dieithr a pheidiwch fyth � dweud eich bod
yn y ty ar eich pen eich hun.

Os cewch alwad ff�n sarhaus neu fygythiol, rhowch y
derbynnydd i lawr ger y ff�n a cherddwch i ffwrdd.
Dewch n�l mewn ychydig funudau a rhowch y derbynnydd yn
�l; peidiwch � gwrando er mwyn gweld a yw’r un a
ffoniodd yno o hyd. Peidiwch � dweud unrhyw beth –
mae’r un sy’n ffonio am glywed ymateb emosiynol. Mae hyn
yn rhoi cyfle i’r un sy’n ffonio ddweud yr hyn y mae’n
dymuno’i ddweud heb eich gofidio chi. Os bydd y
galwadau’n parhau, dywedwch wrth yr heddlu a’r
cysylltydd a chofnodwch ddyddiad, amser a chynnwys pob
galwad ff�n. Gall hyn helpu’r awdurdodau i ddod o hyd
i’r un sy’n ffonio.

Bod yn ddiogel yn yr awyr agored

Os ydych yn cerdded adref yn y tywyllwch yn aml,
prynwch larwm diogelwch personol mewn siop DIY neu
gofynnwch i’ch swyddog atal troseddau lleol ymhle y
gallwch brynu un. Dylech ei gario yn eich llaw er mwyn i
chi allu ei ddefnyddio’n syth i godi ofn ar ymosodwr.
Gwnewch yn siwr ei fod wedi’i gynllunio i barhau i
seinio os bydd yn disgyn neu os bydd yn syrthio ar y
llawr.

Cariwch eich bag yn agos atoch gyda’r clesbyn yn
wynebu’ch corff. Cariwch allweddi eich ty yn eich poced.
Os bydd rhywun yn cydio yn eich bag, dylech adael iddynt
ei gael. Os byddwch yn cydio’n dynn ynddo, efallai y
cewch eich anafu. Cofiwch fod eich diogelwch chi’n
bwysicach na’ch eiddo.

Os ydych yn credu fod rhywun yn eich dilyn, gwnewch
yn siwr trwy groesi’r stryd – fwy nag unwaith os bydd
angen – i weld a yw’n eich dilyn. Os ydych yn pryderu o
hyd, ewch i’r man agosaf lle mae pobl eraill – tafarn
neu unrhyw le lle mae llawer o oleuadau – a ffoniwch yr
heddlu. Dylech osgoi defnyddio ciosg ff�n caeedig yn y
stryd, oherwydd gallai’r ymosodwr eich cau ynddo.

Os ydych yn mynd allan i redeg neu feicio’n aml,
ceisiwch amrywio’ch llwybr a’ch amser. Cadwch at ffyrdd
wedi’u goleuo’n dda ac sydd � phalmentydd. Ar dir comin
a pharcdir, cadwch at brif lwybrau a mannau agored lle
gallwch weld a chael eich gweld gan eraill – dylech
osgoi safleoedd coediog. Os ydych yn gwisgo stereo
personol, cofiwch na allwch glywed traffig neu rywun yn
dod tuag atoch o’r tu �l.

Peidiwch � chymryd llwybr byrrach trwy lonydd
tywyll, parciau neu ar draws tir gwastraff. Wynebwch y
traffig wrth gerdded fel na all car stopio y tu �l i
chi heb i chi sylwi arno.

Os bydd car yn stopio ac os cewch eich bygwth, dylech
sgrechian a gweiddi a seinio’ch larwm diogelwch personol
os oes un gennych. Ceisiwch ddianc mor gyflym ag y
gallwch. Bydd hyn yn arbed eiliadau hanfodol ac yn ei
gwneud yn anoddach i yrrwr y car ddilyn. Os gallwch,
ceisiwch gofio rhif y car a disgrifiad ohono.
Ysgrifennwch y manylion cyn gynted ag y gallwch wedi
hynny.

Peidiwch � bodio neu gael lifft gan ddieithriaid.

Cuddiwch unrhyw dlysau sy’n edrych yn ddrud.

Gallai hunanamddiffyn ac ymwybyddiaeth diogelwch eich
helpu i deimlo’n fwy diogel. Gofynnwch i’ch heddlu lleol
neu yn eich gwaith a ydynt yn cynnal dosbarthiadau.

Bod yn ddiogel mewn tacsis

Os ydych yn mynd i fod yn hwyr, ceisiwch drefnu lifft
gartref neu archebu tacsi. Gwnewch yn siwr mai’r tacsi y
gwnaethoch ei archebu yw’r un sy’n cyrraedd. Gofynnwch
am ddisgrifiad o’r car – lliw, math, ac ati – a
chadarnhau hyn pan fydd yn cyrraedd. Os wnaethoch chi
roi eich enw wrth archebu, gwnewch yn siwr fod y gyrrwr
yn ei ddweud wrthych cyn i chi fynd i mewn i’r car. Pan
fyddwch yn cyrraedd adref, gofynnwch i’r gyrrwr aros nes
byddwch yn y ty.

Mae nifer o gwmn�au llogi ceir preifat neu gabiau
bychain dibynadwy, ond mae’n rhaid archebu’r rhain naill
ai yn eu swyddfa neu dros y ff�n. Mewn rhai achosion,
bydd gan y gyrrwr gerdyn adnabod. Cadwch rif cwmni
dibynadwy gyda chi bob amser. Dylech osgoi cabiau mini
neu geir llogi preifat sy’n towtio am gwsmeriaid.

Eisteddwch y tu �l i’r gyrrwr bob amser.

Os ydych yn teimlo’n annifyr, gofynnwch i’r gyrrwr
stopio mewn ardal wedi’i goleuo’n dda lle mae yno ddigon
o bobl

Os oes gennych unrhyw amheuon, peidiwch � mynd i
mewn i dacsi.

Diogelwch ar gludiant cyhoeddus

Ceisiwch osgoi arosfannau bysiau unig, yn enwedig ar
�l iddi nosi.

Ar fws gwag, eisteddwch ger y gyrrwr neu’r archwiliwr
tocynnau.

Ar dr�n, eisteddwch mewn adran lle mae yno nifer o
bobl eraill – yn ddelfrydol, mewn sedd ger yr allanfa
pan fyddwch yn cyrraedd. Edrychwch i weld ble mae’r
gadwyn argyfwng wedi’i lleoli.

Wrth yrru

Cyn taith hir, dylech wneud yn siwr fod eich cerbyd
mewn cyflwr da.

Cynlluniwch sut i gyrraedd eich cyrchfan cyn gadael,
ac arhoswch ar briffyrdd os y gallwch.

Gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o arian a phetrol.
Cariwch gan sb�r o betrol.

Dylech gadw newid a cherdyn ff�n rhag ofn y bydd yn
rhaid i chi wneud galwad. Cariwch dortsh.

Cyn i chi adael, dywedwch wrth yr un yr ydych yn
bwriadu eu cyfarfod yr amser yr ydych yn disgwyl
cyrraedd a’r ffordd yr ydych yn bwriadu ei dilyn wrth
yrru yno.

Os bydd rhywun yn chwifio eu breichiau arnoch yn
gofyn i chi stopio, ewch yn eich blaen nes i chi
gyrraedd gorsaf betrol, neu rywle prysur, a ffoniwch yr
heddlu. Peidiwch � rhoi lifft i bobl sy’n bodio.

Cadwch y drysau ar glo pan fyddwch yn gyrru a chadwch
unrhyw fag, ff�n car neu nwyddau gwerthfawr o’r golwg.
Os yw’ch ffenestr ar agor, dylech ei hagor ychydig yn
unig. Peidiwch �’i hagor ddigon i roi cyfle i rywun roi
eu llaw y tu mewn os byddwch yn stopio mewn traffig.

Os ydych yn credu bod rhywun yn eich dilyn, ceisiwch
dynnu sylw eraill trwy fflachio eich goleuadau arnynt a
chanu eich corn. Gwnewch gymaint o swn ag y gallwch. Os
oes modd, gyrrwch nes i chi gyrraedd lle prysur.

Ar �l iddi nosi, parciwch mewn lle prysur sydd
wedi’i oleuo’n dda. Edrychwch o gwmpas cyn i chi adael y
car. Os ydych yn parcio yn y dydd ond yn dychwelyd i’ch
car yn y nos, ceisiwch ddychmygu sut y bydd pethau’n
edrych yn y tywyllwch.

Gwnewch yn siwr bod eich allwedd gennych yn barod pan
fyddwch yn dychwelyd i’ch car. Gwnewch yn siwr nad oes
unrhyw un yn y car.

Os cewch broblemau �’ch car, chwiliwch am ff�n. Ar
draffyrdd, dilynwch y saethau marcio i’r ff�n agosaf.
Nid ydynt byth mwy na milltir oddi wrth ei gilydd i’r
cyfeiriad arall ar y draffordd. Peidiwch byth �
chroesi’r ffordd gerbydau i ddefnyddio ff�n.

Pan fyddwch ar y llain galed neu’n ffonio, cadwch
lygad barcud ar y ffordd a pheidiwch � chymryd lifft
gan ddieithriaid – arhoswch i’r heddlu neu’r gwasanaeth
achub gyrraedd. Peidiwch ag aros yn y car – mae perygl
mawr o gael damwain. Arhoswch ar y bancyn gerllaw gyda
drws blaen ochr y teithiwr ar agor. Os bydd rhywun yn
dod atoch neu os byddwch yn teimlo dan fygythiad, clowch
eich hun yn y car a siaradwch � nhw trwy fwlch bach yn
y ffenestr.

Os oes rhaid i chi deithio’n gyson gyda’r nos neu os
oes rhaid i chi ymweld � phobl yn eu cartref fel rhan
o’ch swydd, ee ymwelydd iechyd neu nyrs ardal, dylech
ystyried prynu ff�n symudol neu ofyn i’ch cyflogwr
ddarparu un.

Yr hyn y gall dynion ei wneud

Gall ddynion helpu trwy feddwl o ddifrif am
ddiogelwch merched yn eu bywyd bob dydd. Dylech gofio’r
pwyntiau canlynol:

Os ydych yn cerdded yn yr un cyfeiriad � merch ar ei
phen ei hun, peidiwch � cherdded y tu �l iddi – gallai
hyn beri pryder iddi. Croeswch y ffordd a cherddwch ar
yr ochr draw. Gallai hyn roi tawelwch meddwl iddi nad
ydych yn ei dilyn.

Peidiwch ag eistedd yn rhy agos i ferch ar ei phen ei
hun mewn cerbyd tr�n neu ar fws.

Os ydych yn meddwl cychwyn sgwrs gyda merch sy’n
aros, er enghraifft, mewn arosfan bysiau unig, cofiwch
na fydd hi’n gwybod nad ydych yn dymuno peri niwed iddi.

Ceisiwch sylweddoli pa mor fygythiol y gall
gweithredoedd fel syllu, chwibanu, gwneud sylwadau a
gwthio fod, yn enwedig pan fyddwch mewn grwp o ddynion.

Helpwch ffrindiau neu aelodau’r teulu sy’n ferched
trwy roi lifft iddynt neu eu tywys adref pan y gallwch.
Os ydych yn gwneud hyn, gwnewch yn siwr ei bod yn
ddiogel yn ei chartref cyn i chi adael.

Os bydd y gwaethaf yn digwydd

Ceisiwch feddwl beth fyddech chi’n ei wneud pe bai
rhywun yn ymosod arnoch. A allech chi ymladd yn �l neu
a fyddech yn osgoi gwrthsefyll ac aros am gyfle i
ddianc? Dim ond chi all benderfynu ymladd yn �l ond
gallai paratoi ar gyfer yr holl bosibiliadau roi eiliad
o fantais i chi.

Os bydd rhywun yn eich bygwth, dylech sgrechian a
gweiddi am help a defnyddio’ch larwm diogelwch personol
os oes un gennych. Gallai hyn ddychryn yr ymosodwr a
pheri iddo redeg i ffwrdd.

Mae gennych bob hawl i amddiffyn eich hun gyda grym
rhesymol gan ddefnyddio eitemau sydd gennych fel
ymbar�l, chwistrell wallt neu allweddi yn erbyn yr
ymosodwr. Nid yw’r gyfraith, fodd bynnag, yn rhoi
caniat�d i chi gario unrhyw beth y gellir ei ddisgrifio
fel arf ymosodol.

Os oes rhywun wedi ymosod arnoch

Mae ymosod a threisio yn droseddau difrifol, os ydynt
yn cael eu cyflawni gan ddieithryn neu rywun yr ydych yn
ei adnabod.

Ffoniwch yr heddlu’n syth. Bydd angen eich help chi
arnynt i ddal yr ymosodwr. Gallwch helpu’r heddlu trwy:

Nodi enw neu gyfeiriad unrhyw dyst

Ceisio cofio’n union sut oedd yr ymosodwr yn edrych

Os oedd car yn bresennol, ceisiwch nodi lliw, math a
rhif cofrestru’r car.

Nid oes angen i chi fynd i orsaf yr heddlu i adrodd
am ymosodiad – gall yr heddlu eich cyfweld yn eich
cartref eich hun os dymunwch. Bydd y troseddau hyn yn
cael eu trin mewn ffordd sensitif beth bynnag yw’ch
rhyw. Mae gan orsafoedd heddlu swyddogion wedi’u
hyfforddi’n arbennig a fydd yn eich helpu ac yn eich
cefnogi, ac mae gan nifer o safleoedd ystafelloedd
cyfforddus i ddioddefwyr, sydd wedi eu lleoli ar wah�n
i orsaf yr heddlu lle y gellir eich cyfweld yn breifat.

Er mai eich ymateb syth fydd ymolchi, ceisiwch beidio
gwneud hynny os y gallwch. Bydd yn dinistrio tystiolaeth
feddygol hanfodol a fydd yn helpu i brofi’r achos yn
erbyn yr unigolyn a wnaeth eich treisio neu ymosod
arnoch.

Os bydd eich achos yn dod gerbron llys, mae’r
gyfraith yn gwarantu y cedwir eich manylion yn
gyfrinachol os ydych yn ferch neu os ydych dan 18 oed.
Mae’r gyfraith yn gwahardd papurau newydd rhag cyhoeddi
unrhyw beth a allai nodi pwy ydych. Hefyd, fel rheol ni
ofynnir cwestiynau i chi yn y llys am eich hanes
rhywiol.

Os yw’r trais wedi digwydd o fewn eich teulu, mae
amddiffyniad cyfreithiol yn bosib o dan gyfraith sifil
neu gyfraith droseddol. Er enghraifft, mewn rhai
achosion gellir gofyn i wr neu bartner beidio dod yn
agos i’ch cartref neu hyd yn oed eich cymdogaeth.

Cymerwyd y cyngor hwn o “Your
Practical Guide to Crime Prevention
“. Llwythwch
yr arweiniad llawn trwy glicio yma.

I archebu copi personol, cysylltwch �’r Swyddog Atal
Troseddau yn eich gorsaf heddlu leol neu ysgrifennwch
at:

Crime Prevention Publicity Y Swyddfa Gartref Ystafell
155 50 Queen Anne’s Gate Llundain SW1H 9AT

 

Last update:  25/07/03