Cyflogi plant

 

Cymraeg

 

Gwybod Y Gyfraith

Gwarchod Data

Sut alla i gael copi o’r wybodaeth sydd gan yr
heddlu amdanaf?

Mae Deddf Gwarchod Data 1988 yn rhoi rhwymedigaethau
penodol ar sefydliadau sy’n prosesu data personol i
gofrestru’r dibenion y cedwir neu y defnyddir
gwybodaeth, ac dilyn cyfres o egwyddorion y cytunwyd
arnynt.

Mae’r Ddeddf yn delio’n benodol � data personol sy’n
ymwneud ag unigolion byw, a gedwir ar systemau
gwybodaeth yr heddlu.

Dan amodau’r Ddeddf, cewch ofyn am gopi o unrhyw
ddata personol y credwch sy’n cael ei gadw amdanoch ar
system wybodaeth yr heddlu. Yn ogystal, gallwch sicrhau
bod unrhyw wybodaeth yn cael ei chywiro os yw’n
anghywir.

Sut mae mynd ati i gael y wybodaeth yma?

Ar �l i chi wneud eich ymholiad cychwynnol, anfonir
ffurflen gais atoch a fydd yn esbonio’r drefn i’w dilyn.

Ar �l i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen gais ynghyd
�’r ffi berthnasol (�10 ar hyn o bryd) ac os yw’r Prif
Gwnstabl yn fodlon bod gennych yr hawl cyfreithiol i
weld y wybodaeth, cewch gopi o unrhyw ddata personol y
mae’n rhaid i’r Prif Gwnstabl ei ryddhau dan amodau’r
Ddeddf, o fewn 40 diwrnod.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Cyflogi plant

Beth yw’r rheolau ynghylch cyflogi plant?

Mae’r rheolau ynghylch cyflogi plant (dan 16 eod) fel
a ganlyn (yn ddibynnol ar is-ddeddfau awdurdodau lleol).

  • Ni ddylid cyflogi unrhyw blentyn dan 13 oed

  • Ni ddylai’r plentyn weithio cyn oriau cau’r ysgol

  • Ni ddylai weithio cyn 7 o’r gloch y bore (unrhyw
    ddiwrnod)

  • Ni ddylai weithio ar �l 7 o’r gloch y nos (unrhyw
    ddiwrnod)

  • Ni ddylai weithio dros 2 awr mewn unrhyw ddiwrnod
    ysgol

  • Ni ddylai weithio dros 2 awr yn ystod unrhyw ddydd
    Sul

Ni ddylid gofyn iddynt godi, cario neu symud unrhyw
beth sy’n debygol o beri anaf iddynt oherwydd ei fod yn
drwm.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Os byddwch yn dyst i drosedd

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn dyst i drosedd?

Os byddwch yn gweld trosedd yn cael ei gyflawni,
dylech adrodd amdano – neu ofyn i rywun arall adrodd
amdano wrth i chi barhau i wylio’r hyn sy’n digwydd.

Dylech ffonio 999 os bydd

  • bywyd rhywun mewn perygl

  • perygl o anaf difrifol

  • trosedd yn cael ei gyflawni neu ar fin cael ei
    gyflawni

  • troseddwr yn dal ar y safle neu newydd adael y
    safle

Mewn amgylchiadau eraill, ffoniwch rhif prif
switsfwrdd canolog eich heddlu (www.police.uk)
a bydd cysylltydd yn eich cysylltu � rhywun sy’n gallu
helpu.

Os bydd y digwyddiad yn un treisgar, ni ddylech
ymyrryd oni bai eich bod yn hyderus y gallwch wneud
hynny’n ddiogel – yn hytrach, dylech ffonio’r heddlu’n
syth trwy ddeialu 999.

Os byddwch yn dyst i ddigwyddiad, efallai y bydd
angen i chi ddisgrifio’r rhai a fu’n cymryd rhan neu
esbonio’r hyn a ddigwyddodd yn fanwl. Dylech gofio
taldra, maint corff, lliw a hyd gwallt ac yn arbennig,
dillad y bobl berthnasol. Ysgrifennwch yr hyn a welsoch
neu disgrifiwch y bobl dan sylw.

Beth fydd yr heddlu’n dymuno ei wybod?

Fel arfer, bydd yr heddlu am gael gwybod y wybodaeth
ganlynol:

  • Eich enw a’ch cyfeiriad

  • Y rhif ff�n yr ydych yn ffonio ohono

  • Prif rif cyswllt (rhif ff�n cartref neu symudol)

  • Union leoliad y digwyddiad yr ydych yn cyfeirio
    ato

  • Natur y digwyddiad

  • Disgrifiad o’r bobl dan sylw

  • A ydych yn dyst i’r digwyddiad neu’n ei adrodd ar
    ran rhywun arall

  • Os ydych yn dal i wylio’r digwyddiad, efallai y
    gofynnir i chi aros ar y ff�n.

Os ydych yn adrodd damwain ffordd, efallai y gofynnir
y canlynol i chi hefyd:

  • Nifer a math o gerbydau oedd yn gysylltiedig �’r
    ddamwain

  • Nifer a graddfa unrhyw anafiadau

  • A oes rhwystr ar y ffordd A oes unrhyw ddarnau ar
    y ffordd.

    << Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Y Rhyngrwyd – Negeseuon e-bost na
ofynnwyd amdanynt

Rwy’n cael negeseuon e-bost o hyd ac o hyd drwy’r
rhyngrwyd, na ofynnais amdanynt, ac rwy’n credu bod rhai
ohonynt yn cynnwys delweddau pornograffig. Beth alla i
ei wneud?

Dylech ddiogelu eich cyfeiriad e-bost. Dylech ei roi
i’r bobl hynny yr ydych yn dymuno iddynt ei gael yn
unig. Os byddwch yn cael llawer o negeseuon e-bost na
ofynnwyd amdanynt, dylech gysylltu �’ch Darparwr
Gwasanaeth ar y Rhyngrwyd (ISP). Gallant atal unrhyw
negeseuon e-bost oddi wrth y sawl sy’n eu hanfon, rhag
eich cyrraedd.

Ewch ati i ddysgu am hidlo. Mae nifer o raglenni
e-bost yn cynnwys nodweddion hidlo sy’n rhoi cyfle i chi
osod meini prawf i atal unrhyw negeseuon e-bost dieisiau
cyn iddynt gyrraedd eich cyfrifiadur, neu, unwaith y
byddant yn cyrraedd, yn eu symud i flwch sbwriel lle y
gallwch eu dileu heb eu darllen.

Gall cael delweddau pornograffig fod yn brofiad
eithaf gofidus, fodd bynnag, nid yw meddu ar bornograffi
i oedolion a’i ddosbarthu – sef mwyafrif y delweddau a
dderbynnir – yn anghyfreithlon fel rheol. Efallai nad
yw’r hyn sy’n peri gofid i un yn peri gofid i un arall.
Mewn achos fel hyn, yr unigolyn dan sylw sydd i
benderfynu a ddylent adrodd am hyn i’w heddlu lleol, a
fydd yn cynnig cyngor priodol i chi ynghylch y mater.

Rwy’n credu fy mod yn adnabod yr unigolyn sydd wedi
ei anfon. Beth ddylwn i ei wneud?

Os yw’r delweddau’n dod yn ddi-baid ac o’r un
ffynhonnell, gallai hyn fod yn drosedd dan Adran 2(1) a
(2) Deddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997. Os credwch mai
hyn yw’r achos, dylech arbed negeseuon e-bost ar eich
cyfrifiadur neu baratoi cop�au caled ohonynt.
Cysylltwch �’ch heddlu lleol a fydd yn rhoi cyngor i
chi ynghylch y camau mwyaf priodol i’w cymryd.

Rydw i wedi agor fy e-bost ac mae’n ymddangos ei fod
yn cynnwys delwedd anweddus o blentyn. Beth ddylwn i ei
wneud?

Mae meddu ar ddelweddau anweddus o blant yn cael ei
ddiffinio dan Adran 7 Deddf Amddiffyn Plant 1978 (fel
y’i diwygiwyd gan Adran 84 Deddf Cyfiawnder Troseddol a
Threfn Gyhoeddus 1994). Yn ogystal, mae’n drosedd
cynhyrchu, dosbarthu neu beri i ddelweddau o’r fath gael
eu dosbarthu ac mae’r rhain yn cynnwys ffugddelweddau.
Mae’r rhain yn droseddau difrifol ac mae’r gosb amdanynt
yn ddedfryd o garchar. Mewn achosion fel hyn, dylech
hysbysu’ch heddlu lleol neu’r Uned Pedoffilia, a fydd yn
rhoi cyngor priodol i chi.

A alla i e-bostio’r ddelwedd atoch er mwyn i chi ei
gweld?

Na. Trosedd ddosbarthu yw hynny ac nid oes yno unrhyw
amddiffyniad cyfreithiol dros wneud hyn.

Felly, beth ddylwn ei wneud �’r ddelwedd?

Mae’n amlwg bod y ddelwedd yn dystiolaeth o drosedd a
bydd yn cael ei thrin fel hynny. Ni ddylech ei dileu,
ond dylech hysbysu eich heddlu lleol. Byddant yn siarad
� chi ac yn cymryd datganiad ysgrifenedig gennych, a
fydd yn defnyddio’r ddelwedd hon fel tystiolaeth
arddangos. Gwneir copi o’r ddelwedd ar ddisg, CD-ROM neu
ar ffurf copi caled. Yna, gellir ei dileu.

Yna, dylech gysylltu �’ch ISP a’u hysbysu am hyn ac
ystyried ‘blocio’ cyfeiriad e-bost yr anfonwr trwy
ddefnyddio’r cyfleusterau yn eich cyfrif e-bost.

Nid wyf yn cael delweddau ond cyfeiriadau gwefannau
sy’n fy nhywys i safleoedd sy’n ymwneud � phlant. Beth
ddylwn i ei wneud?

Mewn achosion fel hyn, mae’n dderbyniol anfon
cyfeiriadau’r gwefannau atom. Dylech wneud hyn trwy
gop�o’r cyfeiriadau ac anfon e-bost at Uned Pedoffilia
eich heddlu. Yna, bydd yr uned yn gweithio gyda
sefydliadau amrywiol i geisio dileu’r safleoedd hyn ac
arestio’r troseddwyr.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Diffiniadau cyfreithiol

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dwyn, lladrata a
byrgleriaeth?

Dwyn yw ‘meddiannu eiddo sy’n berchen i rywun arall
trwy dwyll, gyda’r bwriad o amddifadu’r unigolyn hynny
ohono’n barhaol’.

Yn syml, mae hyn yn golygu cymryd eiddo rhywun arall
gyda’r bwriad o beidio �’i ddychwelyd iddynt. Rhaid ei
fod yn cynnwys elfen o anonestrwydd. Os bydd rhywun o’r
farn bod ganddynt yr hawl i gymryd eiddo neu y byddai’r
perchennog wedi rhoi caniat�d, gallai hyn olygu na
chafodd yr eitem ei ddwyn.

Yn syml, ystyr Lladrata yw pan fo rhywun yn dwyn ac
yn defnyddio grym neu’n codi ofn ar yr unigolyn dan sylw
y byddant yn defnyddio grym neu drais.

Yn y b�n, mae lladrata’n cynnwys trais neu fygythiad
o drais a rhywbeth yn cael ei ddwyn. Er enghraifft, mae
rhywun yn mynd at rywun yn y stryd, yn eu taro i’r llawr
ac yn dwyn eu waled neu eu bag llaw. Os bydd rhywun yn
mynd at rywun, yn eu bygwth � chyllell neu arf tebyg ac
yn cymryd eu heiddo, mae hyn yn achos o ladrata hefyd.

Gall lladrata fod ar nifer o ffurfiau hefyd gan
amrywio o fygio pobl yn y stryd fel disgrifiwyd uchod, i
achos o ladrata arfog mewn banc.

Ystyr byrgleriaeth yw pan fo rhywun yn mynd mewn i
adeilad neu ran o adeilad fel tresmaswr, gyda’r bwriad o
ddwyn, peri anaf corfforol difrifol, treisio, neu wneud
difrod troseddol neu ar �l mynd i mewn i unrhyw
adeilad, neu ran o adeilad fel tresmaswr, mae’r unigolyn
yn euog o gyflawni trosedd os byddant yn dwyn, yn ceisio
dwyn, yn peri anaf corfforol difrifol neu’n ceisio peri
anaf corfforol difrifol.

Nid yw’n anghyffredin i bobl ddweud ‘Mae rhywun wedi
lladrata o’m ty’ pan fyddant yn golygu bod rhywun wedi
cyflawni byrgleriaeth yn eu ty. Oni bai fod yno
rhywfaint o drais neu fygythiad o drais, NID lladrata
yw’r trosedd.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

 

Last update:  25/07/03