C�n crwydrol

 

Cymraeg

 

Gwybod Y Gyfraith

Polisi stopio a chwilio

Pam fod yr heddlu yn stopio ac yn chwilio pobl?

Gall yr heddlu stopio a chwilio pobl i ddarganfod
rhai mathau o droseddau er mwyn helpu i sicrhau bod ein
cymunedau’n fwy diogel. Mae defnyddio trefniadau stopio
a chwilio’n llwyddiannus yn golygu na cheir cymaint o
ddioddefwyr troseddau a bod mwy o droseddau yn cael eu
darganfod.

Yn ardaloedd rhai heddluoedd, cynhelir archwiliadau
stopio a chwilio YN UNIG pan geir achos gwirioneddol
dros wneud hynny.

NI chewch eich stopio a’ch chwilio yn unig oherwydd
eich oedran, eich lliw, eich steil gwallt, y ffordd yr
ydych yn gwisgo ac ati.

Pam fyddai swyddog heddlu yn cynnal archwiliad
‘stopio a chwilio’?

Os bydd yr heddlu’n eich stopio, nid yw hyn o
reidrwydd yn golygu eich bod yn gwneud unrhyw beth o’i
le. Efallai eich bod yn debyg i rywun y mae swyddogion
heddlu yn chwilio amdanynt o ganlyniad i drosedd, neu
efallai eu bod yn amau eich bod yn cario nwyddau wedi eu
dwyn, cyffuriau neu rywbeth y gallech ei ddefnyddio i
gyflawni trosedd neu y gellir ei ddefnyddio fel arf.

Sut fyddant yn fy chwilio?

Cyn i swyddog heddlu eich archwilio, rhaid iddo/iddi
ddweud y canlynol wrthych:

  • eu henw

  • pa orsaf heddlu y maent yn gweithio ynddi

  • eu rheswm dros eich amau yn y lle cyntaf

  • nod y chwilio

  • yr hyn y maent yn disgwyl dod o hyd iddo

Os nad yw’r swyddog heddlu mewn lifrai, rhaid
iddo/iddi ddangos ei gerdyn/cherdyn adnabod i chi.

Os cewch eich stopio a’ch chwilio, bydd y swyddogion
heddlu yn ceisio bod yn sensitif, yn anymwthgar ac yn
gyflym – byddant yn gwneud eu gorau i beidio � pheri
embaras i chi neu oedi’n ddiangen.

Os ydych mewn man cyhoeddus, ni all swyddog heddlu
ofyn i chi ddiosg mwy na’ch cot neu siaced neu’ch menig.

Os bydd y swyddog heddlu yn gofyn i chi ddiosg mwy na
hynny, e.e. eich esgidiau neu sgarff wyneb, cewch eich
tywys i rywle preifat, fel gorsaf yr heddlu. Nid yw hyn
yn golygu eich bod wedi cael eich harestio. Yn yr achos
hwn, rhaid i’r swyddog heddlu sy’n eich chwilio fod o’r
un rhyw � chi.

Mae’n ofynnol i swyddogion heddlu ddarparu cofnod yn
y fan a’r lle o’r weithred stopio a chwilio sydd wedi
digwydd.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae’r heddlu’n paratoi cofnod o’r holl achosion
‘stopio’ yn ogystal �’r achosion ‘stopio a chwilio’.
Rhaid cofnodi achosion stopio anstatudol neu ‘wirfoddol’
hefyd. Rhaid i’r swyddog heddlu nodi’r canlynol ar
ffurflen:

  • eich enw neu ddisgrifiad ohonoch

  • eich hunaniaeth ethnig a ddiffiniwyd gennych

  • y rheswm dros chwilio � pryd a ble y gwnaethpwyd
    y chwilio

  • yr hyn yr oedd y swyddog heddlu yn edrych amdano
    ac a ddaethpwyd o hyd i unrhyw beth

  • enw a rhif y swyddog heddlu a wnaeth y chwilio

A oes yn rhaid i mi ddweud fy enw a’m cyfeiriad i
swyddogion heddlu?

Os cewch eich stopio, bydd y swyddogion heddlu yn
gofyn rhai cwestiynau syml i chi fel eich enw, lle’r
ydych yn byw a lle’r ydych yn mynd.

Oni bai eu bod yn eich adrodd am gyflawni trosedd
honedig, nid oes rhaid i chi roi’r manylion hyn iddynt
ond mae’n gwneud synnwyr i gydweithredu. Os ydych yn
ddieuog, nid oes unrhyw beth i’w ofni.

Os ydych yn cael eich adrodd am gyflawni trosedd,
rhaid i chi ddarparu’r manylion hyn ac efallai y cewch
eich arestio os gwrthodwch roi’ch manylion.

A fydd y swyddog heddlu yn rhoi copi i mi o’r hyn y
mae wedi ysgrifennu?

Bydd. Bydd y swyddog heddlu yn ysgrifennu’r hyn a
ddigwyddodd ar ffurflen ac yn rhoi copi i chi ei gadw.
Os nad ydych yn barod i aros am y ffurflen, gallwch gael
copi gan yr orsaf heddlu ar unrhyw adeg o fewn 12 mis.

Os na fyddwch yno pan fydd eich car yn cael ei
chwilio, bydd yr swyddogion heddlu yn gadael hysbysiad
yn esbonio’r hyn a ddigwyddodd.

Ble gall swyddogion heddlu stopio a chwilio?

Fel arfer, dim ond mewn man cyhoeddus y gall yr
heddlu eich stopio a’ch chwilio. Os ydynt yn amau eich
bod wedi cyflawni trosedd ddifrifol, gallant eich
chwilio mewn unrhyw fan.

Os bydd yr heddlu’n credu bod rhywun yn cyflawni
trais difrifol mewn ardal ar adeg arbennig, gallant
chwilio am gyllyll ac arfau eraill. Yn yr achos hwn,
gallent chwilio pawb mewn ysgol neu bawb sydd ar eu
ffordd i g�m b�l-droed heb orfod cael rheswm da dros
chwilio pob unigolyn.

A all yr heddlu stopio a chwilio fy nghar wrth i mi
yrru?

Dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd, gall swyddog heddlu
stopio unrhyw gerbyd a yrrir ar yr ffordd. Efallai y
gofynnir i chi gyflwyno’ch dogfennau, fel trwydded yrru,
MOT neu fanylion yswiriant neu gall y swyddog heddlu
archwilio’r cerbyd i sicrhau ei fod yn addas i fynd ar
yr heol.

Beth os fydd yr heddlu yn achosi difrod wrth agor fy
ngherbyd?

Os bydd yr heddlu yn credu y gallai eich cerbyd fod
yn cario nwyddau wedi eu dwyn, cyffuriau neu unrhyw beth
arall y gellir ei ddefnyddio i gyflawni trosedd, efallai
y gellir chwilio eich car heb i chi orfod bod yn
bresennol.

Os achosir unrhyw ddifrod wrth chwilio, gallwch ofyn
i’r heddlu dalu iawndal. Fodd bynnag, ni fyddant yn talu
hwn os daethpwyd o hyd i unrhyw beth i’ch cysylltu �
throsedd.

Beth alla i wneud os nad ydw i’n hapus ac yn dymuno
cwyno?

Rhaid i’r heddlu eich trin yn deg, yn gwrtais a chyda
pharch. Os nad ydych yn hapus �’r ffordd y cawsoch eich
trin, ceisiwch beidio � chynhyrfu. Os ydych yn dymuno
cwyno am y ffordd y cawsoch eich trin, gweler Cwynion yn
erbyn yr heddlu.

Neu, gallwch ofyn am gyngor gan eich awdurdod heddlu
lleol, Canolfan Gynghori, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol
neu gyfreithiwr.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

C�n crwydrol

Rwyf wedi dod o hyd i gi crwydrol neu gi coll yn y
stryd. Beth ddylwn i ei wneud?

Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am gasglu cwn
crwydrol a’u cadw. YR UNIG gyfrifoldeb sydd gan yr
heddlu yw derbyn a delio � chwn crwydrol neu goll sy’n
cael eu dwyn i orsaf yr heddlu, nes y bydd yr awdurdod
lleol yn eu casglu. Cedwir cofrestrau cwn coll a chwn
wedi’u darganfod mewn gorsafoedd heddlu lleol.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Clampio olwynion

Rwyf wedi dychwelyd i’m cerbyd ac mae fy olwyn wedi
cael ei chlampio. Beth alla i ei wneud neu beth fydd yr
heddlu yn ei wneud?

Yn aml bydd swyddogion heddlu’n cael eu galw allan i
ddelio ag anghydfod rhwng modurwyr a chontractwyr
preifat ar �l i olwynion eu cerbydau gael eu clampio ar
�l iddynt barcio ar dir preifat heb ganiat�d. Prif
gyfrifoldeb swyddog heddlu sy’n cael ei alw i
ddigwyddiad o’r fath fydd atal tor-heddwch – gan mai
mater sifil yw hyn fel arfer ac nid mater i’r heddlu.

Os ceir arwyddion digonol ar y tir yn nodi y bydd
cerbydau wedi’u parcio heb ganiat�d yn cael eu clampio,
gan nodi hefyd y ffi ar gyfer tynnu’r clamp, yna mae’n
debygol y bydd y weithred o glampio yn gyfreithlon.

Yn y sefyllfa hon, gallai unrhyw ddifrod a achosir
i’r clamp trwy geisio’i dynnu i ffwrdd, olygu bod yr
unigolyn yn atebol am unrhyw ddifrod mewn cyfraith
sifil. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, gall olygu hefyd
ei bod ef/hi wedi cyflawni trosedd difrod troseddol
hefyd.

Gall gwaredu’r clamp mewn sefyllfa lle y dangosir
arwyddion digonol, gyfateb � dwyn.

Os clampiwyd cerbyd ar ddarn o dir lle na ddangoswyd
arwyddion yn eglur, efallai y bydd y weithred o glampio
cerbyd yn un anghyfreithlon, gan olygu y gallai’r cwmni
clampio fod yn atebol o dan gyfraith sifil.

Ni fydd y swyddog heddlu sy’n mynychu digwyddiad lle
y mae olwyn cerbyd wedi cael ei chlampio, yn cyfrannu at
unrhyw ddadleuon ynghylch talu neu beidio talu ffi i
ryddhau’r clamp. Bydd ef neu hi yn nodi’r amgylchiadau
ac unrhyw honiadau a wneir yn unig.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Tyst mewn llys

Rwyf wedi cael cais i roi tystiolaeth mewn llys barn
ac rwyf yn poeni am hynny. Beth fydd yn rhaid i mi ei
wneud?

Cynhelir y mwyafrif o achosion troseddol yn llys yr
ynadon ac os bydd y diffynnydd yn pledio’n euog, ni fydd
yn rhaid i chi fynychu na rhoi tystiolaeth.

Fel arfer, anfonir achosion mwy difrifol i lys y
goron ac os bydd y troseddwr yn gwadu’r cyhuddiad, fe’u
cyflwynir gerbron rheithgor.

Os gofynnir i chi ymddangos mewn llys fel tyst, mae’r
heddlu’n sylweddoli y gallai fod yn brofiad pryderus i
chi a byddant yn rhoi cymaint o gymorth � phosib i chi.
Cewch lythyr yn nodi lleoliad ac amser yr achos, ynghyd
� thaflen sy’n nodi’r hyn a fydd yn digwydd yn
fanylach. Gellir cael gwybodaeth bellach (gan gynnwys
cyflwyniad rhithwir) gan Juror Online yn www.juror.cjsonline.org/index.html

Mewn rhai heddluoedd, cyflwynwyd cynllun i helpu
tystion o’r enw Cynllun Cefnogi Tystion. Byddant yn rhoi
cyngor a chymorth i chi ac yn esbonio’r holl drefn o roi
tystiolaeth yn y llys.

A fydd yn rhaid i mi ddod ag unrhyw beth gyda mi i’r
llys?

Dylech ddod ag unrhyw bapurau neu ohebiaeth y byddwch
o bosib eu hangen gyda chi.

A gaf i ofyn i ffrind ddod gyda mi?

Cewch, fe allwch ofyn i ffrind ddod gyda chi i gadw
cwmni i chi. Ni fydd eich ffrind yn gallu hawlio
treuliau (fel costau teithio) oni bai fod y llys yn
cytuno bod angen iddo/iddi fod yno, er enghraifft i
edrych ar �l eich plentyn neu os ydych yn anabl. Am
ragor o wybodaeth, holwch y sawl a anfonodd bapurau’r
llys atoch.

Ni ddylech siarad gydag unrhyw un ymlaen llaw am y
dystiolaeth yr ydych yn mynd i’w rhoi oherwydd fe allai
hynny effeithio ar yr achos llys.

Rwy’n ei chael hi’n anodd deall Saesneg. A oes modd
i mi gael help?

Os ydych yn cael trafferth siarad neu ddeall Saesneg
ac os ydych yn credu y bydd angen cyfieithydd arnoch,
gofynnwch i’r un sydd wedi anfon manylion yr achos llys
atoch i drefnu un ar eich cyfer ymlaen llaw.

Beth ddylwn i ei wneud pan fyddaf yn cyrraedd y
llys?

Rhowch enw’r diffynnydd, a nodir yn eich llythyr, i’r
derbynnydd neu borthor y llys a fydd wedyn yn dangos i
chi ble i aros.

Byddwch yn barod i aros am gyfnod hir iawn cyn eich
tro chi i troi tystiolaeth.

Rwy’n ofni y byddaf yn gweld y diffynnydd neu aelod
o’i deulu. A allaf i eistedd i ffwrdd o’r ystafell llys?

Os ydych yn teimlo’n anghyffyrddus ynghylch eistedd y
tu allan i ystafell y llys, bydd un o swyddogion yr
achos neu borthor yn ceisio dod o hyd i fan tawel i chi
aros.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn mynd i mewn i’r
llys?

Cewch eich tywys i’r blwch tystio. Os ydych yn ei
chael hi’n anodd sefyll, gofynnwch am gael eistedd. Yna,
gofynnir i chi dyngu llw – hynny yw, tyngu y byddwch yn
dweud y gwir ar y Beibl neu lyfr sanctaidd eich crefydd.
Os yw’n well gennych, gallwch ddwys-haeru – hynny yw,
addo dweud y gwir.

Os ydych yn dyst i’r erlyniad, bydd yr erlyniad yn
gofyn cwestiynau i chi’n gyntaf. Yna, bydd yr
amddiffyniad yn gofyn rhai cwestiynau. Gelwir hyn yn
groesholi. Yn ogystal, gall ynad, clerc y llys neu
farnwr ofyn cwestiynau i chi ar unrhyw adeg yn ystod yr
achos.

Pryd fydda i’n cael gadael y llys?

Peidiwch � gadael y llys nes y cewch wybod na fydd
eich angen mwyach. Os oes gennych reswm pwysig dros
adael yn gynnar, rhaid i chi ddweud wrth borthor y llys
cyn i’r achos gychwyn.

Os ydych wedi gwneud datganiad ac yn dymuno ei weld
cyn i chi roi tystiolaeth, efallai y cewch wneud hynny.
Gofynnwch i borthor neu swyddog heddlu a allwch gael
copi.

Ar �l i chi orffen rhoi tystiolaeth, efallai y cewch
wybod eich bod yn cael eich rhyddhau. Mae hyn yn golygu
eich bod yn rhydd i adael ond gallwch aros i wrando ar
weddill yr achos os dymunwch.

A fyddaf yn cael hawlio costau teithio neu t�l am
golli enillion?

Gallwch hawlio costau am deithio i’r llys a cheir
lwfans am brydau a chostau eraill yn ymwneud �’ch
ymddangosiad yn y llys, megis colli cyflog. Gofynnwch i
borthor y llys am ffurflen hawlio treuliau.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

 

Last update:  25/07/03

Leave a comment

Your e-mail address will not be published. Required fields are marked *