Eiddo Coll
Rwy’n credu fy mod wedi colli ychydig o eiddo. Beth
fydd angen i mi ei wneud?
Os ydych wedi colli ychydig eiddo, dylech ei adrodd
am hynny wrth eich gorsaf heddlu leol. Mae gosod eich
c�d post ar eich eiddo yn golygu ei bod yn fwy tebygol
y cewch eich eiddo’n �l os bydd yr heddlu’n dod o hyd
iddo. Mae rhai heddluoedd yn cynnal arwerthiant o eiddo
sy’n cael ei ddarganfod ond na ellir dod o hyd i’w
berchennog.
<<
Mynegai Gwybod Y Gyfraith
Moduro – Alcohol
Faint o alcohol y gallaf ei yfed a pharhau i allu
gyrru’n ddiogel?
NI DDYLECH yrru pan fydd lefel yr alcohol yn eich
anadl dros 35mg/100ml neu lefel yr alcohol yn eich gwaed
dros 80mg/100ml. Fodd bynnag, o ganlyniad i nifer o
ffactorau gwahanol, mae’r heddlu’n cynghori mai’r unig
lefel diogel yw PEIDIO ag yfed o gwbl pan fydd rhaid i
chi yrru. Yn ogystal, dylech gofio efallai na fydd yn
ddiogel i chi yrru gyda’r nos ar �l bod yn yfed amser
cinio neu yn y bore ar �l yfed y noson cynt.
Cofiwch – mae hefyd yn drosedd gyrru dan ddylanwad
cyffuriau.
<<
Mynegai Gwybod Y Gyfraith
Moduro – Tywydd gwael a chau ffyrdd
Mae’r tywydd yn wael iawn, a allwch chi ddweud
wrthyf pa ffyrdd sydd ar agor?
Dylai’r wybodaeth hon fod ar gael trwy wrando ar
orsafoedd radio lleol, troi at system Teletestun,
cysylltu � sefydliadau moduro cenedlaethol neu droi at
wefannau rhai heddluoedd.
Peidiwch � ffonio’ch gorsaf heddlu leol i geisio
cael y wybodaeth yma. Os bydd y tywydd yn wael, mae’n
debygol y bydd y swyddogion heddlu’n brysur iawn yn
delio � damweiniau ffyrdd ac ati.
<<
Mynegai Gwybod Y Gyfraith
Moduro – prynu car ail-law
Rwy’n dymuno prynu cerbyd ail-law ond rwy’n
ymwybodol o’r peryglon. Beth alla i ei wneud i leihau’r
peryglon hynny?
I leihau’r peryglon, dylech ystyried y cwestiynau
canlynol:
-
A yw’r hysbyseb yn gofyn i chi ffonio ar adegau
penodol?
-
A yw’r rhif cyswllt a roddir yn yr hysbyseb yn
rhif ff�n symudol?
-
A yw’r unigolyn sy’n gwerthu’r cerbyd yn mynnu dod
�’r cerbyd atoch chi?
-
A all y gwerthwr ddangos dogfen gofrestru V5?
-
A yw’r V5 yn disgrifio model, math, rhif injan a
lliw cywir y cerbyd?
-
A yw’r un allwedd yn ffitio ym mhob clo?
-
Os yw ffenestri’r cerbyd wedi’u hysgythru, a yw’r
rhif sydd wedi’i ysgythru yr un fath � rhif y pl�t
cofrestru?
-
A yw’r rhif VIN sydd ar y pl�t VIN (yn adran yr
injan fel arfer) yr un fath �’r rhif ar y V5 neu a
yw’r pl�t VIN ar goll?
-
A oes rhif wedi’i stampio ar y pl�t VIN? Os oes,
a yw’n hawdd ei ddarllen?
-
A ellir darllen rhif yr injan yn eglur?
-
A fydd yr un sy’n gwerthu’r cerbyd yn fodlon
derbyn siec, hyd yn oed ar yr amod y byddant yn
cadw’r car nes i’r siec glirio?
-
A yw’n ymddangos bod y gwerthwr yn gyfarwydd �’r
cerbyd?
-
A yw’r gwerthwr yn fodlon i chi drefnu prawf
hurbrynu?
Os ydych yn bwriadu prynu car, peidiwch � mynd �
llawer o arian parod gyda chi oni bai eich bod yn gallu
gwneud hynny’n ddiogel.
<<
Mynegai Gwybod Y Gyfraith
Moduro – Treth car
Mewn pa amgylchiadau y mae’n rhaid i mi ddangos disg
treth?
Rhaid i unrhyw gerbyd ‘peiriannol’ ddangos disg treth
dilys pan fydd yn cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar
ffordd gyhoeddus.
A oes unrhyw eithriadau?
Nid yw’n ofynnol i’r cerbydau canlynol ddangos
disgiau treth:
-
Injan d�n
-
Ambiwlans
-
Rhai cerbydau amaethyddol
-
Rhai cerbydau a yrrir gan drydan
-
Cerbydau i gleifion
-
Cerbydau adeiladu ffyrdd
-
Cerbydau a ddefnyddir yn unig i wasgaru deunydd i
ddelio � rhew, i� ac eira.
Yn ogystal, bydd cerbydau yn cael eu heithrio ar yr
adegau canlynol YN UNIG:
-
Pan fyddant yn mynd i ganolfan brawf am brawf MOT
a archebwyd ymlaen llaw, gan nodi’r amser a’r
dyddiad
-
Yn ystod prawf MOT
-
Ar �l methu prawf MOT, er mwyn mynd �’r cerbyd i
apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw mewn garej i
gywiro diffygion.
Sylwer: Efallai y bydd rhai cerbydau hen yn cael eu
dosbarthu’n gerbydau ‘vintage’ ac er nad ydynt wedi’u
heithrio o orfod dangos disg treth, mae’r ddisg yn rhad
ac am ddim.
Mae fy nhreth car ar fin dod i ben ac nid wyf wedi
trefnu tystysgrif yswiriant newydd. Nid yw’r Swyddfa
Bost yn fodlon rhoi un newydd i mi. A allwch chi nodi fy
mod wedi ffonio er mwyn i mi allu gyrru fy nghar nes i
mi gael disg treth newydd?
Na, ni chewch yrru car heb disg treth cyfredol.
Daeth disg treth fy nghar i ben neithiwr. A alla i
ei yrru am 14 diwrnod nes i mi gael un arall?
Na. Ni cheir ‘gras’ am 14 diwrnod – rhaid i chi gael
disg treth ffordd dilys.
Mae rhywun wedi dwyn fy nisg treth. Beth ddylwn i ei
wneud?
Gallwch gael ffurflen i wneud cais am ail gopi o’ch
disg treth mewn prif swyddfa bost. Ni chewch eich
heithrio pan fyddwch yn gyrru cerbyd modur ar y ffordd
oherwydd bod rhywun wedi dwyn eich trwydded doll – yn yr
achos hwn, byddwch yn cyflawni trosedd trwy beidio �’i
ddangos.
<<
Mynegai Gwybod Y Gyfraith
|