Moduro – Pwyntiau cosb

 

Cymraeg

 

Gwybod Y Gyfraith

Moduro – Pwyntiau cosb

Beth yw pwyntiau cosb?

Gall rhai troseddau moduro arwain at osod pwyntiau
cosb ar eich trwydded yrru.

Mae pwyntiau cosb yn ddilys am 3 blynedd o ddyddiad y
trosedd, ond maent yn parhau ar y drwydded am 4 blynedd
(11 mlynedd am droseddau yfed neu gyffuriau).

Os cesglir 12 pwynt neu fwy dros 3 blynedd bydd y
gyrrwr yn cael ei wahardd, fodd bynnag, rhoddir pwerau
cyfyngedig i’r llysoedd beidio � gwahardd mewn
amgylchiadau eithriadol. Os bydd gyrrwr sydd newydd
basio’i brawf gyrru yn cael 6 pwynt neu fwy o fewn 2
flynedd o basio’i brawf, rhaid iddo sefyll y prawf gyrru
eto.

Mesurir y cyfnod 3 blynedd o ddyddiad cyflawni’r
trosedd diweddaraf.

Ar �l gwahardd gyrrwr dan y drefn cronni pwyntiau,
bydd y pwyntiau presennol yn cael eu tynnu oddi ar eich
trwydded ond bydd eich trwydded yn cyfeirio at y
gwaharddiad am 4 blynedd (11 mlynedd ar gyfer
troseddau’n ymwneud ag alcohol neu gyffuriau).

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Moduro – Cyfyngiadau ar feiciau
modur

Beth yw’r cyfyngiadau ynghylch gyrru beiciau modur?

Os oes gennych drwydded beic modur dros dro, rhaid i
chi gwblhau cwrs Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol (HSG)
yn foddhaol. Yna, gallwch yrru ar y ffordd fawr gan
ddangos platiau ‘L’ neu ‘D’ am hyd at dair blynedd.

Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i chi basio prawf theori
ar feic modur ac yna, prawf ymarferol i gael eich
trwydded beic modur llawn neu fel arall, byddwch yn
colli eich trwydded am flwyddyn.

Os oes gennych drwydded car llawn, gallwch yrru
beiciau modur hyd at 125cc ac 11kw o ran pwer gan
ddangos platiau ‘L’ neu ‘D’ ar ffyrdd cyhoeddus, ond
rhaid i chi gwblhau cwrs HSG yn gyntaf.

Os oes gennych drwydded moped llawn ac yn dymuno
sicrhau trwydded beic modur llawn, bydd yn rhaid i chi
sefyll y prawf theori i feiciau modur os na wnaethoch
eistedd prawf theori ar wah�n pan gawsoch eich trwydded
moped. Yna, rhaid i chi basio prawf beic modur
ymarferol.

NI DDYLECH gario teithiwr ar y piliwn neu dynnu
trelar nes i chi basio eich prawf.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Moduro – Gwregysau diogelwch

Beth yw’r gyfraith sy’n ymwneud � gwregysau
diogelwch?

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn rhoi’r cyngor canlynol:

 

Sedd
Flaen
(Pob Cerbyd)

Sedd
Gefn
(Ceir a Bysiau Mini Bach)

Cyfrifoldeb
Pwy

Gyrrwr

Rhaid eu gwisgo os ydynt bresennol

Amherthnasol

Gyrrwr

Plant
dan 3 oed

Rhaid gwisgo cyfyngiad plentyn
priodol

Rhaid gwisgo cyfyngiad plentyn
priodol os yw ar gael

Gyrrwr

Plant
3 – 11 oed a than 1.5 metr – oddeutu 5 troedfedd

Rhaid gwisgo cyfyngiad plentyn
priodol os yw ar gael. Os nad yw ar gael, rhaid
gwisgo gwregysau diogelwch oedolion

Rhaid gwisgo cyfyngiad plentyn
priodol os yw ar gael. Os nad yw ar gael, rhaid
gwisgo gwregysau diogelwch oedolion

Gyrrwr

Plant
12 neu 13 oed neu iau neu blant iau sy’n 1.5 metr
neu fwy o ran taldra

Rhaid gwisgo gwregysau diogelwch
oedolion os ydynt ar gael

Rhaid gwisgo gwregysau diogelwch
oedolion os ydynt ar gael

Gyrrwr

Teithwyr
dros 14 oed

Rhaid eu gwisgo os ydynt ar gael

Rhaid eu gwisgo os ydynt ar gael

Teithiwr

A oes unrhyw eithriadau i’r rheolau ynghylch gwisgo
gwregysau diogelwch?

Oes. Maent fel a ganlyn:

Nid oes rhaid i yrwyr tacsi Cerbydau Hacnai wisgo
gwregysau diogelwch pan fyddant ar ddyletswydd (os oes
ganddynt deithiwr neu beidio). Yr unig adeg y bydd
gyrwyr tacsi wedi’u Llogi’n Breifat yn cael eu heithrio
yw pan fyddant yn cario teithiwr sy’n talu. Rhaid iddynt
wisgo gwregys diogelwch ar bob adeg arall.

Dyma rai o’r eithriadau mwyaf cyffredin i bobl 14 oed
a throsodd:

  • Pobl sy’n dosbarthu megis gyrwyr faniau llaeth

  • Modurwyr sy’n bacio cerbyd yn �l

  • Staff cerbydau argyfwng mewn rhai amgylchiadau
    Pobl sydd � thystysgrif eithrio meddygol. (Meddyg
    yn unig sy’n gallu rhoi tystysgrif eithrio meddygol
    rhag gwisgo gwregys diogelwch).

    << Mynegai Gwybod Y Gyfraith

Moduro – Camer�u cyflymder

Mae camera cyflymder wedi fflachio arnaf. Pryd fydda
i’n gwybod a fyddaf yn cael fy erlyn?

Bydd ceidwad cofrestredig y cerbyd yn derbyn
Hysbysiad o’r Bwriad i Erlyn o fewn 14 diwrnod i’r
trosedd honedig. Os na fydd y ceidwad yn clywed unrhyw
beth o fewn 14 diwrnod, nid yw’n debygol y bydd yn
gorfod mynd i’r llys.

Mae’r gyfraith yn mynnu bod y ceidwad cofrestredig yn
llenwi’r Hysbysiad o’r Bwriad i Erlyn gan nodi manylion
y gyrrwr/beiciwr adeg y trosedd honedig. Yna, bydd yr
unigolyn a enwyd yn derbyn gwys i’r llys.

<< Mynegai Gwybod Y Gyfraith

 

Last update:  25/07/03